Maths research banner

Astudio Gyda Ni


Ymchwil Ôl-raddedig

Mae recriwtio myfyrwyr ôl-raddedig eithriadol o'r DU a ledled y byd yn ganolog i'n hathroniaeth ymchwil. Mae myfyrwyr yn weithgar ar draws ystod o feysydd ymchwil ac yn cael eu hariannu o ystod o ffynonellau (er enghraifft: hunan-ariannu, diwydiant, elusen, llywodraeth y DU a'r UE). Mae gan ein myfyrwyr ymchwil fynediad i gyfleusterau o'r radd flaenaf; mae ganddynt ofod swyddfa pwrpasol ac fe'u hanogir i gyflwyno eu gwaith mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.

Rydym yn croesawu ceisiadau am PhD neu astudiaeth Meistr trwy Ymchwil yn un o’n meysydd arbenigedd. Gallwch astudio ar sail amser llawn neu ran-amser, ar y campws neu o bell. Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol gyda chorff ymchwil yn barod, efallai mai PhD fesul Portffolio yw'r llwybr i chi.

Mae ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael tîm goruchwylio sydd â'r arbenigedd a'r profiad i'w cefnogi yn eu hastudiaethau. Bydd goruchwylwyr yn eich helpu i lunio eich prosiect ymchwil doethurol, yn eich cynghori ar greu rhwydweithiau a sefydlu eich gyrfa.

Rydym yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiadau allanol i wella eich sgiliau ac ymestyn eich rhwydweithiau proffesiynol gan gynnwys cyflwyno mewn cynadleddau, ymgymryd â darlithio sy'n talu fesul awr neu weithio gydag ysgolion drwy Gynllun Llysgenhadon Myfyrwyr PDC, Brilliant Club neu Soapbox Science.

Byddwch hefyd yn elwa ar raglen o gyrsiau datblygu sgiliau perthnasol a drefnir gan yr Ysgol Graddedigion sy'n helpu i sicrhau eich bod yn gwbl barod am ofynion PhD.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ymchwil sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn y brifysgol a'n meysydd arbenigedd, ewch i'r tudalennau gwe Ymchwil.

  • Derbyniadau mis Hydref: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau — 1af Mai, hysbysiad o benderfyniad — 1af Gorffennaf.
  • Derbyniadau mis Ionawr: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau — 1af Hydref, hysbysiad o benderfyniad — 1af Rhagfyr.
  • Derbyniadau Ebrill: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau — 1af Ionawr, hysbysiad o benderfyniad — 1af Mawrth.


Gallwch ddod o hyd i'n ffioedd dysgu ar gyfer ymchwil ôl-raddedig yma a mwy o wybodaeth ar ein gwefan Ysgol Graddedigion. Pan fyddwch yn barod i gyflwyno cais, dyma sut yr ydych yn ei wneud a sut y caiff ei ystyried.


Cysylltwch â ni

Dr Angelica Pachon
Llinos Spargo, Ysgol i Raddedigion


Storïau Myfyrwyr Ymchwil