Maths research banner

Doethur mewn Athroniaeth (PhD): Anna Skelt


"Syrthiais mewn cariad â sgwariau hud yn ystod fy ngradd Mathemateg yma yn PDC ac roeddwn i'n ddigon ffodus i allu symud yn syth i PhD. 

"Rwy'n gobeithio y gall fy ymchwil wella dealltwriaeth fathemategol ymhellach a sefydlu fframwaith i eraill archwilio'r pwnc hwn yn y maes a elwir yn fathemateg hamdden.


Gwerth ychwanegol

"Fel myfyriwr PhD, cefais y cyfle i ymgymryd â lefelau amrywiol o ddarlithio gyda thâl fesul awr. Dechreuais drwy gefnogi staff Mathemateg mewn sesiynau tiwtorial a helpodd hyn i hybu fy hyder a'm gallu i helpu myfyrwyr i ddilyn modiwlau Mathemateg ar wahanol raddau. Mae gallu esbonio pethau mewn mwy nag un ffordd i helpu gwahanol fyfyrwyr, yn sgil pwysig fel darlithydd ac mewn sawl maes gwaith arall. 

"Yna, ymddiriedwyd ynof i ysgrifennu (gyda chymorth) y nodiadau ac i gyflwyno'r darlithoedd ar gyfer pynciau penodol ar y radd sylfaen Mathemateg, gan gynnwys ysgrifennu asesiadau. Rhoddodd hyn brofiad amhrisiadwy i mi wrth ysgrifennu nodiadau ac asesiadau a oedd nid yn unig ar y lefel gywir ond a oedd hefyd yn rhychwantu'r amser cywir a ddyrannwyd ar gyfer y darlithoedd. 

"Ac yn olaf, cefais y cyfle i gyflwyno modiwl cyfan i garfan o fyfyrwyr ar lefel sylfaen. Rhoddodd hyn brofiad i mi o ran rheoli fy amser yn effeithiol er mwyn cyflawni hyn ochr yn ochr â chwblhau fy PhD, ond hefyd wedi gwella fy hyder yn fawr wrth siarad â grwpiau trwy gyflwyno dosbarthiadau. 

"Mae'r cyfleoedd hyn wedi fy helpu i wella fy sgiliau cyflwyno, wrth ysgrifennu a chyflwyno deunydd, yn ogystal â datblygu sgiliau mewn gosod gwaith ar y lefel briodol. Mae gallu ymgymryd â hyn i gyd yn ogystal â marcio, gwirio sgriptiau ac ysgrifennu nodiadau i ddarlithwyr nid yn unig wedi ennill ychydig o arian i mi, ond mae wedi rhoi cymaint o brofiadau imi sydd wedi fy helpu i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol. 


Anna Skelt, PhD Maths student

Mae Anna yn aelod o'r grŵp Algebra a Chyfuniadeg